data ar gyfer Cymru ddeallus
This website is available in English
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi defnyddio methodoleg rheoli datgelu ystadegol newydd ar gyfer Cyfrifiad 2021. O ganlyniad, ni fydd ffigurau a grëir drwy grynhoi daearyddiaethau lefel is yn cyfateb i ffigurau a ryddhawyd ar gyfer daearyddiaethau uwch. Nid yw’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn argymell cydgrynhoi daearyddiaethau lefel is i greu daearyddiaethau uwch.
Yn ogystal, mae’r fethodoleg rheoli datgeliad ystadegol a ddefnyddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn arwain at gyfansymiau nad ydynt yn gyson ar draws pob dadansoddiad a detholiadau amrywiol. Er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn defnyddio enwaduron cyson ar draws holl gyfraddau a chanrannau’r Cyfrifiad a ddangosir yn InfoBaseCymru, rydym wedi cyfrifo’r rhain gan ddefnyddio’r un set o ffigurau poblogaeth ac aelwyd.